Lleoliad:
Fideo Gynadledda via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Medi 2020
Amser:
13.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Alun Davidson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddMADY@senedd.cymru
-----
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar senedd.tv.
Cofrestru
(13.00-13.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(13.30)
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
(13.30-14.30) (Tudalennau 1 - 94)
Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Chris Warner - Llywodraeth Cymru
Ed Sherriff - Llywodraeth Cymru
3 Papurau i’w nodi
(14.30-14.35)
3.1 Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch Cynllun Masnachu Allyriadau - 15 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 95 - 97)
3.2 Papur i'w nodi 2: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar Farchnad Fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 16 Gorffennaf 2020.
(Tudalennau 98 - 99)
3.3 Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 19 Gorffennaf 2020
(Tudalen 100)
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch rhaglenni ariannu’r UE yng Nghymru a dyfodol cyllid ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol yng Nghymru - 20 Gorffennaf 2020.
(Tudalennau 101 - 106)
3.5 Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod ar 30 Mehefin 2020 - 20 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 107 - 108)
3.6 Papur i'w nodi 6: Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 27 Gorffennaf 2020.
(Tudalennau 109 - 110)
3.7 Papur i'w nodi 7: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Ysgrifennydd Busnes ac Ysgrifennydd Cymru ynghylch y Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 7 Awst 2020
(Tudalennau 111 - 115)
3.8 Papur i'w nodi 8: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfianwder a’r Cyfansoddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar farchnad fewnol y DU - 14 Awst 2020
(Tudalennau 116 - 125)
3.9 Papur i'w nodi 9: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfianwder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 14 Awst 2020
(Tudalennau 126 - 127)
3.10 Papur i'w nodi 10: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb rhwng y DU a Gwlad Pwyl - 24 Awst 2020
(Tudalennau 128 - 129)
3.11 Papur i'w nodi 11: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch hawliau dinasyddion a fframweithiau cyffredin - 25 Awst 2020
(Tudalennau 130 - 135)
3.12 Papur i'w nodi 12: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfianwder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) - 27 Awst 2020
(Tudalen 136)
3.13 Papur i'w nodi 13: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch y trefniadau gwahanu rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy - 28 Awst 2020
(Tudalennau 137 - 138)
3.14 Papur i'w nodi 14: Marchnad Sengl yr UE - papur gan Dr Kathryn Wright - 28 Awst 2020
(Tudalennau 139 - 158)
3.15 Papur i'w nodi 15: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb Rhyng-sefydliadol - Cyfarfodydd Gweinidogol ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol - 4 Medi 2020
(Tudalennau 159 - 160)
4 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(14.35)
5 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth
(14.35-14.50)
6 Trafod cytundebau rhyngwladol
(14.50-14.55) (Tudalennau 161 - 163)
7 Blaenraglen waith
(14.55-15.10) (Tudalennau 164 - 170)